Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir
6 Hydref 2014
CLA448 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth o ran Cymru sy’n cyfateb i adran 196 o Ddeddf Cynllunio 2008 ac Atodlen 10 iddi. Roedd adran 196 yn gwneud darpariaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol bennu’r weithdrefn ar gyfer achosion penodol.
Mae erthygl 2 yn diwygio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990. Mae’n gwneud hynny ym mhob achos er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn y dylid ei dilyn wrth ystyried achosion penodol o dan y Ddeddf honno.
Cyfeiria’r Memorandwm Esboniadol at dri offeryn statudol arall. Ni ellir gwneud y Rheoliadau hynny nes bod y Gorchymyn hwn wedi’i wneud yn dilyn y ddadl. Er hynny, mae’r Memorandwm yn ddefnyddiol i esbonio’r bwriad a’r cyd-destun.